Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 20 Gorffennaf 2017
Amser: 09.30 -
11.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4190
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Michelle Brown AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Hasera Khan (Dirprwy Glerc) Hywel Dafydd (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o drafodion y cyfarfod (PDF 371KB) Gweld fel HTML (230KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Hefin David. Ni chafwyd dirprwyon ar eu rhan.
Cofnododd y Cadeirydd ddiolch y Pwyllgor i Anne Thomas o Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dymunodd yn dda iddi yn ei hymddeoliad.
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ychwanegol am y canlynol:
· Proses yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau'r Plentyn, gan gynnwys y system sydd ar waith i fonitro ei ddefnydd ac enghreifftiau o newidiadau i bolisi sydd wedi digwydd o ganlyniad i Asesiad;
· Annibyniaeth gymharol model comisiynwyr statudol Cymru o gymharu â'r rhai mewn gwledydd eraill (yn canolbwyntio ar y Comisiynydd Plant yn arbennig);
· Yr amserlenni sy'n gysylltiedig â meysydd arloesedd Rhoi Plant yn Gyntaf;
· Y diweddaraf am pryd y caiff y strategaeth gweithlu gofal plant ei chyflwyno, a rhagor o fanylion am ei chynnwys a'r cynllun ar gyfer ei gweithredu;
· Y gwaith a wneir gan ei dîm mewn perthynas â phlant a phobl ifanc wrth baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr UE;
· Manylion am werthusiadau (academaidd) diweddar Dechrau'n Deg a chynlluniau tebyg eraill sy'n seiliedig ar god post, gyda chymariaethau penodol o ganlyniadau ar gyfer y plant hynny sy'n cael mynediad i'r cynlluniau a'r rhai nad ydynt.
Yn gynnar yn nhymor yr hydref, aeth Ysgrifennydd y Cabinet ati hefyd i ddarparu ymateb pendant i'r cwestiwn ynghylch a fydd yn ailsefydlu'r Grŵp Cynghori Allanol ar Eiriolaeth.
Nodwyd y papurau.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor bapur ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd y byddai adroddiad drafft yn cael ei ystyried yn nhymor yr hydref.
Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu.
Trafododd y Pwyllgor y llythyrau a chytunwyd ar ei ymateb iddynt.